Rhaglen 2019
Gŵyl Gregynog 2019: Gweledigaeth
Digwyddiadau’r tymor
Sadwrn, 22 Mehefin 2019, 7.30pm
Drwm, Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth
VRȉ, Tŷ Ein Tadau
Mae Tŷ Ein Tadau, CD gyntaf y triawd llinynnol gwerin-siambr VRȉ (Patrick Rimes, Jordan Price Williams ac Aneirin Jones), yn cael adolygiadau gwych yn y Guardian a fRoots. Manteisiwch ar y cyfle i’w clywed mewn cyngerdd acwstig sy’n agor tymor Gŵyl Gregynog 2019, yng nghyd-destun dau bortread nodedig o’r 19fed ganrif, wedi’u dehongli gan Peter Lord.
www.vri.cymu
Sul, 23 Mehefin 2019, 2.30pm
Pontcadfan, Llangadfan
VRȉ, Tŷ Ein Tadau
Cyfle arall i wrando ar VRȉ, y tro hwn mewn hen gapel sydd wedi dod yn lleoliad poblogaidd i’r Ŵyl. Bydd pris y tocyn yn cynnwys te prynhawn blasus yng nghaffi Cwpan Pinc. WEDI GWERTHU ALLAN
Gwener, 28 Mehefin 2019, 1.00pm
Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Rhian Davies, Walford and Wales
Darlith sy’n rhoi sylw i uchelgais Walford Davies ‘i hybu mynegiant o genedligrwydd Cymreig mewn cerddoriaeth’, ac i’r mentrau gwreiddiol y bu’n ymgymryd â hwy ac a gefnogwyd yn ariannol gan ‘haelioni diderfyn’ Gwendoline a Margaret Davies.
Gwener, 28 Mehefin 2019, 6.00pm
Ystafell Gyffredin, Gregynog
Rhian Davies, Walford and Wales
Cyfle arall i glywed cyflwyniad curadurol i’r tymor gan y Cyfarwyddwr Artistig, y tro hwn ar ffurf sgwrs cyn y cyngerdd yng Ngregynog
Gwener, 28 Mehefin 2019, 7.30pm
Yr Ystafell Gerdd, Gregynog
Odysseus Piano Trio
Repetoire glasurol a cherddoriaeth gan gyfansoddwyr Cymreig sy’n gysylltiedig â’r Aberystwyth Trio, yr ensemble siambr preswyl cyntaf mewn unrhyw brifysgol yn y byd.
www.odysseustrio.com
Sadwrn, 29 Mehefin 2019, 2.30pm
Ystafell Gyffredin, Gregynog
Dr Jan Ruzicka, ‘Considering all the peoples of the world as one’: David Davies and international politics
Cyfarwyddwr Sefydliad Coffa David Davies yn trafod sut mai ym Mhrifysgol Aberystwyth y sefydlwyd y Gadair gyntaf erioed mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a hynny yn 1919.
www.aber.ac.uk/en/interpol
Sadwrn, 29 Mehefin 2019, 4.00pm
Ystafell Gyffredin, Gregynog
Craig Owen, David Davies and the Temple of Peace
Darlith gan Bennaeth Cymru dros Heddwch i nodi 80 mlynedd ers agor y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd i goffáu’r dynion a’r merched o bob cenedl a fu farw yn y Rhyfel Mawr.
www.walesforpeace.org
Sadwrn, 29 Mehefin 2019, 7.30pm
Yr Ystafell Gerdd, Gregynog
Reinoud Van Mechelen, tenor, cyfarwyddwr
A Nocte Temporis
Erbarme dich, rhaglen lawn o waith Bach, sef arias ar gyfer tenor, ffliwt, soddgrwth a harpsicord, yn cael eu perfformio gan y tenor aml-arobryn o Fflandrys a’r ensemble Baróc o Ffrainc.
www.anoctetemporis.org
Sul, 30 Mehefin 2019, 2.30pm
Capel Bethel, Stryd y Popty, Aberystwyth
Meirion Wynn Jones, organ
Cerddoriaeth gan Walford Davies, William Mathias a chyfansoddwyr eraill o Aberystwyth sydd dros y blynyddoedd wedi canu’r organ Frederick Rothwell hyfryd sydd yn y capel.
www.meirionwynnjones.com