A Nocte Temporis

Reinoud Van Mechelen, tenor, cyfarwyddwr

Saesneg

Erbarme dich, rhaglen lawn o waith Bach, sef arias ar gyfer tenor, ffliwt, soddgrwth a harpsicord, yn cael eu perfformio gan y tenor aml-arobryn o Fflandrys a’r ensemble Baróc o Ffrainc.

 

Anna Besson, ffliwt
Marc Meisel, harpsicord
Salomé Gasselin, viola da gamba

 

 
Choral prelude: ‘Herr Christ der ein’ge Gottes Sohn’ – BWV601
Choral: Herr Christ der ein’ge Gottes Sohn
Aria: Ach ziehe die Seele mit Seilen der Liebe – BWV96
 
Recit: Ach! Ich bin ein Kind der Sünden
Aria: Das Blut so meine Schuld durchschtreicht – BWV78
Sicilienne, sonate in Es Major BWV 1031
Aria: Wenn auch gleich aus der Höllen – BWV 107
 
Aria: Lass, o Fürst der Cherubinen – BWV 130
Prélude & allemande, cello suite no.1 in G major BWV1007
Aria: Drum ich mich ihm ergebe – BWV107
 
Sarabande, Partita for flute solo BWV1013
Aria: Wo wird in diesem Jammertale – BWV 114
Andante, BWV1034 for flute and continuo
Aria: Erschüttre dich nur nicht – BWV99
 
Prélude choral ‘Erbarm’ dich‘ – BWV721
Recit: Ich habe wieder Gott gehandelt
Aria: Erbarme dich – BWV55
 
Graddiodd Reinoud Van Mechelen o’r Brussels Royal Conservatoire yn 2012 a dyfarnwyd gwobr bwysig y Caecilia Prize for Young Musician of the Year iddo gan wasg gerddoriaeth Gwlad Belg yn 2017. Ar ôl gweithio am nifer o flynyddoedd fel unawdydd dan faton arweinyddion megis William Christie, Philippe Herreweghe, Hervé Niquet a Christophe Rousset, sefydlodd ei ensemble ei hun, A Nocte Temporis, yn 2016.
 

Ystyr A Nocte Temporis yw ‘ers cyn cof’: amnaid tua’r gorffennol, tua’r hyn sy’n newid, ac yn enwedig tuag at yr hyn sy’n parhau i aros yr un. Y nod yw cyflwyno perfformiadau sydd mor hanesyddol gywir â phosib, ac sy’n cyffwrdd emosiynau cynulleidfa mor eang ag y bo modd.
 

Derbyniodd dau CD yr ensemble, sef Erbarme dich: Arias of J. S. Bach ar gyfer tenor a ffliwt (2016) a Clérambault: Cantates françaises (2018), glod unfrydol y beirniaid, ac maent wedi ennill gwobrau gan gynnwys dau CHOC gan gylchgrawn Classica (‘A Bach recording blessed by the Gods’), pum Diapason, un Diapason d’Or, a Caecilia Prize am fod yn un o’r deg recordiad gorau yn 2016.
 

Ar ôl teithio i Warsaw, Paris, Brwsel, Amsterdam a Pavia gyda’i raglen o weithiau gan Bach, gwahoddwyd A Nocte Temporis i berfformio mewn lleoliadau pwysig gan gynnwys Festival Radio France (Montpellier), MA Festival (Brugge), Bozar (Brwsel), Chapelle Royale du Château de Versailles, a Neuadd Wigmore. Eu perfformiad yng Ngŵyl Gregynog fydd eu datganiad cyntaf yng Nghymru.

 

Archebwch nawr