VRȉ

Saesneg

 

Triawd newydd yw VRï sydd wedi dod ynghyd i gynrychioli Cymru a’i cherddoriaeth ar lwyfan y sîn ‘gwerin-siambr’ sydd yn ymddangos bob ochr i’r Iwerydd ar hyn o bryd.

 

Cyw Bach – VRï from Jordan Price Williams on Vimeo.

 

Maent yn cyfuno profiad Jordan Price Williams (Elfen), Patrick Rimes (Calan) ac Aneirin Jones, ac mae’r tri yn cyflwyno caneuon ac alawon o’r gwledydd Celtaidd a thu hwnt, tra’n ceisio gweddu egni sesiwn dafarn swnllyd efo ystryw a trefniannau cain pedwarawd llinynnol Fiennaidd.

 

Archebwch nawr (Aberystwyth)

 

Archebwch nawr (Llangadfan) WEDI GWERTHU ALLAN