David Davies

Saesneg

 
David Davies (1880–1944), Gwendoline Davies (1882–1951) a Margaret Davies (1884–1963) oedd ŵyr ac wyresau’r diwydiannwr a’r entrepreneur Cymreig hynod, David Davies, Llandinam (1818–1890), a buont yn ddychmygus iawn wrth ddefnyddio eu cyfoeth etifeddol i noddi nifer o brosiectau diwylliannol, addysgol a chymdeithasol er budd pobl Cymru.
 
O fewn wythnosau i Gadoediad 1918, cyflwynodd David, Gwendoline a Margaret Davies gynnig beiddgar i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Eu cynnig oedd gwaddoli Cadair Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf y byd. Roedd eu gweledigaeth yn cael ei gyrru yn ei blaen gan eu sylweddoliad ‘bod angen ystyried holl bobloedd y byd fel un’.
 
Bydd y ddarlith gan Dr Jan Ruzicka, Gyfarwyddwr Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies, yn esbonio sut roedd y fath weledigaeth o’r byd yn symudiad sylfaenol oddi wrth yr arfer gyfoes, a bydd yn dangos yr anawsterau a wynebodd David Davies yn ei ymgais i’w gwireddu.
 
Archebwch nawr
 

Bydd y ddarlith arbennig hon gan Craig Owen, Pennaeth Cymru dros Heddwch, yn edrych ar ‘etifeddiaeth heddwch’ y teulu Davies, Teml Heddwch unigryw Cymru, a straeon anghyffredin pobl gyffredin sydd, dros y can mlynedd diwethaf, wedi siapio swyddogaeth Cymru yn y dasg o greu gwell byd. A oes modd iddynt ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ryng-genedlaetholwyr?
 
Archebwch nawr