Meirion Wynn Jones, organ

Saesneg

Cerddoriaeth gan Walford Davies, William Mathias a chyfansoddwyr eraill o Aberystwyth sydd dros y blynyddoedd wedi canu’r organ Frederick Rothwell hyfryd sydd yn y capel.
 
Henry Walford Davies (1869-1941)
Solemn Melody (1909)
 
Georg Friedrich Handel (1685-1759),
arr. Walford Davies

Two Minuets from Overtures arranged for the Gregynog organ (1926)
Arminius
Jospeh
 
David de Lloyd (1883-1948)
Er cof
 
Walford Davies
Jesu dulcis memoria (A Little Organ Book in Memory of Hubert Parry, 1924)
 
Firmin Swinnen (1885-1972)
Aria (1952)
 
William Mathias (1934-1992)
Prelude, Elegy and Toccata (1955)
 
Walford Davies
Interlude in C (op. posth.)
 
Meirion Wynn Jones (b.1972)
Diptych on themes of Walford Davies (2019)
Berceuse
Carillon
(Comisiwn Gŵyl Gregynog 2019, perfformiad byd cyntaf)
 
Brodor o Rewl, Llangollen yw Meirion Wynn Jones, ac fe’i addysgwyd yn Ysgol Gadeirlan Wells cyn ennill ysgoloriaeth i’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, ble yr astudiodd yr organ a’r piano. Tra yn fyfyriwr daliodd ysgoloriaethau organ yn Eglwys Gadeiriol Caerwynt ac Abaty Westminster.
 

Wedi swyddi fel organydd yn Birmingham, Lerpwl ac Aberhonddu, mae Meirion bellach yn dilyn gyrfa lawrydd fel cyfansoddwr, cyfeilydd ac athro. Am nifer o flynyddoedd roedd yn gyfeilydd swyddogol yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a’r Eisteddfod Genedlaethol.
 

Recordiwyd ei weithiau corawl a lleisiol, a’u darlledu ar radio’r BBC ac ar S4C. Yn 2011 enillodd Meirion Dlws y Cerddor am gyfansoddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae gweithiau comisiwn diweddar yn cynnwys Ffrindiau Bach a Mawr ar gyfer Côr Heol y March, a’r anthem Beloved, let us love i ddathlu deugain mlynedd o fodolaeth Cantorion John S. Davies.
 

Mae gweithiau Meirion Wynn Jones wedi’u cyhoeddi gan gwmni Curiad a chwmni SAIN yng Nghymru, cwmni Novello a’r RSCM yn Lloegr, a chwmni World Library Publications yn Chicago.

 

Archebwch nawr