Walford and Wales
Yn wreiddiol o Groesoswallt, Henry Walford Davies (1869-1941) oedd un o gerddorion Prydeinig enwocaf ei genhedlaeth ar gyfrif ei waith fel organydd, cyfansoddwr a darlledwr. Fe’i gwahoddwyd gan Gwendoline a Margaret Davies i fod yn Gyfarwyddwr Artistig cyntaf Gŵyl Gregynog yn 1933, ac olynodd Edward Elgar fel Master of the King’s Musick yn 1934.
Darlith gan Dr Rhian Davies sy’n rhoi sylw i uchelgais Walford Davies ‘i hybu mynegiant o genedligrwydd Cymreig mewn cerddoriaeth’, ac i’r mentrau gwreiddiol y bu’n ymgymryd â hwy ac a gefnogwyd yn ariannol gan ‘haelioni diderfyn’ Gwendoline a Margaret Davies.
Mynediad am ddim
Archebwch nawr (Aberystwyth)
Archebwch nawr (Gregynog)