Pageantry 2017   

LLANGADFAN

14/06/2017

14.30 Gwenllian Llyr, telyn | harp


ABERYSTWYTH

16/06/2017

14.30 Rhian Davies, darlith | talk


16.00 Paul Dooley, telyn | harp


19.30 Thomas Dunford, liwt | lute


GREGYNOG

17/06/2017


14.30 Jeanne Dolmetsch, darlith | talk


19.30 Michala Petri & Mahan Esfahani, recorder & harpsichord


18/06/2017

 14.30 Ricercar Consort | Philippe Pierlot, arweinydd | director

Tocyn Crwydro Gregynog | Gregynog Rover Ticket: £40.00 / £15.00


Y WAUN | CHIRK

23/06/2017

14.30 Thomas Seymour, darlith | talk

19.30 Amy Dickson & Catherine Milledge, saxophone & piano

24/06/2017

14.30 Hazel Walford Davies, darlith | talk

19.30 Robert Plane, clarinet & Gould Piano Trio

25/06/2017

14.30 Peter Lord, darlith | talk

19.30 Llŷr Williams, piano

Tocyn Crwydro’r Waun | Chirk Rover Ticket: £95.00 / £40.00


HARLECH

28/06/2017

14.30 Rhian Davies, darlith | talk

16.30 Traethdy, taith | visit

29/06/2017

12.15 Rheilffordd Ffestiniog | Ffestiniog Railway (Porthmadog)

19.30 Narek Hakhnazaryan, soddgrwth | cello WEDI CANSLO | CANCELLED

30/06/2017

14.30 Siân Roberts, Taith Gerdded | Guided walk

18.00 Cuillin Bantock, darlith | talk

19.30 Sara Trickey & Clare Hammond, ffidl | violin & piano

1/07/2017

10.00 Neil Evans, darlith | tour and talk

11.30 Joy Dunlop, llais | Scottish Gaelic folksinger

14.30 David Michael, darlith | talk

16.30 Rex Lawson, pianola

19.00 Ramsay Burt, darlith | talk

21.00 Croesi Traeth | Crossing A Beach (1), dawns | dance

2/07/2017

10.00 Cae Besi & Bryn Bugeilydd, taith | visit

11.30 Iestyn Hughes, darlith | talk

2.30pm Croesi Traeth | Crossing A Beach (2), dawns | dance

16.30 Paul O’Leary, darlith | talk

19.30 Septura, pres | brass ensemble

Tocyn Crwydro Harlech | Harlech Rover Ticket (excludes | heb Ffestiniog) : £75.00/£30.00)


Erbyn hyn, Gŵyl Gregynog yw gŵyl gerdd glasurol hynaf Cymru, ond roedd Gŵyl Gerdd Castell Harlech, a sefydlwyd ym 1867 yn rhagflaenydd pwysig; fe’i cynhaliwyd yn yr awyr agored o fewn muriau’r Castell.  Gan ddefnyddio gwaith ymchwil dros gyfnod o 20 mlynedd, ffantasi yw Gŵyl Gregynog 2017: Pasiantri a seilir ar ddyddiau haf godidog pan fyddai cymuned hynod greadigol o gerddorion, artistiaid, ffotograffwyr, llenorion a dawnswyr oedd yn enwog ar lwyfan rhyngwladol yn treulio’r haf yn Harlech, yng nghwmni miloedd fyddai’n heidio i’r dref ar y trên bob dydd.


Gwaith cyfansoddwyr Harlech yw sail holl gyngherddau’r Ŵyl eleni: cerddoriaeth Werin Gymreig, y Mabinogi a thirweddau Gwynedd a Meirionnydd oedd ysbrydoliaeth gweithiau cerddorol Granville Bantock, Josef Holbrooke a Cyril Scott. Byddwn hefyd yn cynnwys cynhyrchiad Arnold Dolmetsch o lawysgrif ddirgel Robert ap Huw o gerddoriaeth Gymreig ganoloesol i’r delyn, alawon gwerin Ynysoedd Heledd a drawsgrifiwyd a threfnwyd gan Marjory Kennedy-Fraser, a’r rholiau pianola a dorrwyd gan Alvin Langdon Coburn, ffotograffydd arloesol; a bydd rhaglen helaeth o gyflwyniadau ac arddangosiadau, cynhyrchiad dawns a gomisiynwyd a seilir ar waith ysbrydol Margaret Morris, ynghyd â ffilmiau archif a digwyddiadau estyn allan cymunedol.

 

Cynhelir yr Ŵyl rhwng 16 Mehefin a 2 Gorffennaf 2017 ac yn wahanol i’r arfer, ond yn hollol briodol, bydd rhaglen y penwythnos hir olaf yn Harlech, yn dilyn cyngherddau yn yr holl leoliadau cyfarwydd megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Castell Y Waun ac wrth gwrs Neuadd Gregynog. Ymhlith y digwyddiadau arbennig bydd cyfle i ymweld â bwthyn Granville Bantock, Coed-y-Bleiddiau, o Reilffordd Ffestiniog, ynghyd â Thraethdy, sef tŷ ar Draeth Harlech sy’n eiddo i deulu Bantock hyd heddiw, yng nghwmni’r artist Cuilllin Bantock,  ŵyr y cyfansoddwr. Bydd yr Ŵyl yn cloi gyda chyngerdd fawreddog yng Nghastell Harlech fydd yn deffro atgofion o’r Pasiantau Hanesyddol oedd mor bwysig i enwogion Harlech.

Gregynog is now Wales’ oldest extant classical music festival, but it had a significant precursor in the Harlech Castle Musical Festival, founded in 1867 and held al fresco within the Castle walls.  Drawing on 20 years’ research, Gregynog Festival 2017: Pageantry is a fantasy on the glorious summers when a remarkable creative community of internationally-recognised musicians, artists, photographers, writers and dancers were drawn to live in Harlech, and thousands more flocked daily to the town by train.


Each Festival concert is planned around repertoire by the Harlech composers: Granville Bantock, Josef Holbrooke and Cyril Scott all produced scores that were inspired by Welsh folk music, the Mabinogion, and the landscapes of Gwynedd and Meirionnydd. We also feature Arnold Dolmetsch’s edition of the mysterious Robert ap Huw manuscript of medieval Welsh harp music, the Hebridean folksongs transcribed and arranged by Marjory Kennedy-Fraser, and the pianola rolls cut by pioneer photographer Alvin Langdon Coburn; and there is an extensive programme of talks and exhibitions, a commissioned dance production inspired by the work of Margaret Morris, screenings of archive film and community outreach events.

 

The season runs from 16 June to 2 July 2017 and, unusually but appropriately, the whole of the last long weekend is being held in Harlech itself, following concerts at familiar Festival locations including the National Library of Wales, Chirk Castle and Gregynog itself. Special events will include opportunities to view Granville Bantock’s cottage, Coed-y-Bleiddiau, from the Ffestiniog Railway, and to visit Traethdy, a property on Harlech Beach that is still owned by the Bantock family, escorted by the composer’s grandson, the artist Cuillin Bantock. The Festival closes with a spectacular concert in Harlech Castle that evokes the Historical Pageants in which Harlech’s celebrity set took part.