Croesi Traeth | Crossing A Beach (2)

Traeth Harlech | Harlech Beach

14.30, 2/07/2017 (perfformiad: llanw uchel | performance: high tide )

Cyrchfan | Starts from: Maes parcio, Min-y-Don, Ffordd Glan Môr | Min-y-Don car park, Beach Road

Am ddim | Free (tocynnau gyda chlustffonau wedi gwerthu allan| tickets for headsets and binoculars sold out)
Daeth cwsg i gloi fy llygaid ar y traeth                                  

A chrwydrais wlad ryfeddol wedyn

 

Perfformiad dawns ar draeth Harlech

Daeth y ddawnswraig Margaret Morris i Harlech ym 1919 er mwyn cynnal ysgol haf. Ym myd y freuddwyd ar y traeth, ymuna griw arall gyda hi, ac yn eu plith mae’r cyfarwyddwr ffilm Roman Polanski, a saethodd Macbeth ar draeth Morfa Bychan; ymgyrchwyr Meibion Glyndŵr; yr archangel Mihangel a gofodwyr eraill; ac Ellis Wynne, y Bardd Cwsc ei hun.

O’ch lle ar y tywod, cewch weled byd newydd, gyda chymorth clustffonau ac…ysbienddrych.

 

Sleep came and locked my eyes

And then I dreamed a marvellous world

 

A dance performance on Harlech beach

Margaret Morris was a dancer and she came to Harlech in 1919 to hold a summer school. Others join her in the beach-dream, amongst them film director Roman Polanski, who shot Macbeth on Black Rock sands; Meibion Glyndŵr’s incendiaries; the archangel Michael and other flying objects; and Ellis Wynne, the sleeping poet himself.

From the sands, you will see a new world, with the help of headphones and…a spying glass.

 

Cyrhaeddwch o leiaf 15 munud cyn i’r sioe ddechre os gwelwch yn dda – fe fydd yn chychwyn yn brydlon. Perfformir y sioe ar y traeth ac mae’n daith gerdded fer o’r maes parcio ato ac yn ôl  ar lwybrau ac ar dywod, rhyw 500m i gyd. Gan fod y sioe allan yn yr awyr iach, gwisgwch ddillad ac esgidiau priodol.  |

Please gather at least 15 minutes before the start time – the show will begin promptly. As the show is outdoors, please wear appropriate clothing and footwear. The performance requires people to walk about 500m on paths and sand. We reserve the right to cancel in the event of bad weather.

Mae’r sioe yn Gymraeg a Saesneg | The show is in Welsh and English

 

Noddir gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, Creu Cymru, Ty Cerdd,  Cronfa Partneriaeth Eryri, Theatr Ardudwy a Gŵyl Gregynog | Supported by Arts Council of Wales National Lottery Funding, Creu Cymru, Ty Cerdd, Snowdonia Partnership Fund, Theatr Ardudwy and Gregynog Festival.

http://lightladdemberton.com/

https://twitter.com/LightLaddEmber

https://www.facebook.com/lightladdemberton

Online ticket sales for this event are closed.