Rhaglen 2020

Saesneg

Gŵyl Gregynog 2020: Haelioni 
Digwyddiadau’r tymor

Mercher 17 Mehefin, 1.00pm
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3BU
Dr Rhian Davies

Mae Gŵyl Gregynog 2020 yn dathlu 100 mlynedd ers i Gwendoline a Margaret Davies brynu Plas Gregynog ar 31 Gorffennaf 1920. Bydd Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog yn trafod y tymor, sydd eleni yn ystyried y chwiorydd fel rhan o’r traddodiad o nawdd cerddorol gan fenywod ym mhlastai gwledig Cymru.

Mwy

 


Gwener 19 Mehefin, 7.30pm

Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion, Ceri, SY16 4NX
VRi (Patrick Rimes, Jordan Price Williams & Aneirin Jones)
Peter Lord
Rhian Davies

Bydd y band gwerin-siambr deinamig VRï, enillwyr y wobr am yr Albwm Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2019, yn ymuno â’r haneswyr Peter Lord a Rhian Davies i edrych ar gerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth werin o gasgliadau Elizabeth Jenkins (Eos y Bele, m.1854) a’i gŵr, y Parchedig John Jenkins (Ifor Ceri, 1770–1829). Arferid perfformio’r repertoire yn Eglwys Ceri pan oedd Mr Jenkins yn ficer yno, 1807–29, a phan oedd y ddau yn byw yn The Moat.

www.vri.cymru

Mwy

Sadwrn 20 Mehefin, 4.30pm
Gregynog, Tregynon, SY16 3PW
Dr Shaun Evans

Mae Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn pwyso ar dystiolaeth llyfr cyfrifon Neuadd Nercwys ger Y Wyddgrug i gyflwyno bywyd hynod ddifyr Elizabeth Giffard (1766–1842), menyw oedd yn berchen ar ystad yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

www.iswe.bangor.ac.uk

 

Mwy

Sadwrn 20 Mehefin, 7.30pm
Gregynog, Tregynon, SY16 3PW
Maximilian Ehrhardt

Mae’r telynor gwych hwn o’r Almaen sy’n arbenigwr ar chwarae offerynnau hanesyddol, yn ail-greu byd sain Elizabeth Giffard drwy berfformio detholiad o’i llyfr cerddoriaeth mewn llawysgrif, a hynny ar delyn gweithiad-sengl hanesyddol. Mae rhaglen Maximilian yn cynnwys repertoire gan y cyfansoddwr o Gymru Benjamin Cunnah (1775–1840) a fu’n gweithio yn Neuadd Nercwys, Wynnstay ac Erddig.

www.maximilianehrhardt.com

 

Mwy

Sul 21 Mehefin, 4.30pm
Gregynog, Tregynon, SY16 3PW
Dr Rhian Davies


Cyfle arall i glywed y Cyfarwyddwr Artistig yn trafod noddwragedd cerddoriaeth yng Nghymru, gan gynnwys Mariamne Johnes (1784–1811), Hafod, a’r Eidalwr Giuseppe Viganoni (1753–1822) oedd yn athro cerddorol iddi; dyma’r ddau a ysbrydolodd y cyngerdd heno.

 

 

Mwy

Sul 21 Mehefin, 7.30pm
Gregynog, Tregynon, SY16 3PW
Lea Desandre & Ensemble Jupiter

Rydym wrth ein bodd yn croesawu Ensemble Jupiter, y grŵp aml-arobryn sy’n chwarae cerddoriaeth gynnar dan gyfarwyddyd y liwtydd Thomas Dunford ac sy’n rhoi lle blaenllaw i’r mezzo-soprano ddisglair Lea Desandre, i roi eu perfformiad cyntaf yn y DU yn yr Ystafell Gerdd ac i berfformio rhaglen lawen o ddarnau arddangos meistrolgar gan Vivaldi.

www.leadesandre.com
https://en.jupiter-ensemble.com

 

Mwy

Lluniau:

Rhian Davies © Iestyn Hughes
Maximilian Ehrhardt © Sabine Delafon
Thomas Dunford et Lea Desandre © Julien Benhamou