Gŵyl Gregynog 2020: Haelioni
15-21 Mehefin 2020

English

Mae Gŵyl Gregynog, gŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf Cymru, yn dathlu canmlwyddiant pwysig ym Mhlas Gregynog gyda rhaglen gref ar gyfer 2020 dan y teitl ‘Haelioni’, rhaglen sydd wedi’i hysbrydoli gan noddwragedd Cymreig y gorffennol. Mae’r prif artistiaid yn cynnwys y mezzo-soprano Lea Desandre ac Ensemble Jupiter, sy’n perfformio am y tro cyntaf yn y DU drwy gyflwyno rhaglen o waith Vivaldi dan gyfarwyddyd Thomas Dunford; y telynor Maximilian Ehrhardt; a’r band gwerin aml-arobryn VRȉ. Cyflwynir rhaglen gyfoethog o sgyrsiau ac arddangosfeydd i gefnogi’r digwyddiadau cerddorol, a hynny dan arweiniad yr haneswyr Peter Lord, Shaun Evans a Rhian Davies, Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl. Cyflwynir hefyd gyngherddau allgymorth cymunedol gan Alis Huws o Ddyffryn Banw a benodwyd yn ddiweddar yn Delynores Swyddogol Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

Mae 2020 yn nodi can mlynedd ers i Gwendoline a Margaret Davies brynu Plas Gregynog, maenordy godidog ger Y Drenewydd yng nghalon Canolbarth Cymru, er mwyn gwireddu eu gweledigaeth o greu canolfan i’r celfyddydau yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gadawodd y chwiorydd, wyresau’r diwydiannwr cyfoethog David Davies, Llandinam, waddol eithriadol wych ar eu hôl yng Ngregynog – roedd yn gartref i’w casgliad preifat enwog o baentiadau (a waddolwyd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru), a dyma lle y cynhaliwyd hefyd Ŵyl Gregynog, gŵyl sy’n parhau hyd y dydd hwn yn awyrgylch glyd Ystafell Gerdd y Plas.

Meddai Rhian Davies: “Mae’n wir fraint cael bod yn geidwad Gŵyl Gregynog a’r traddodiad cerddorol rhyfeddol a gadwyd ym Mhlas Gregynog. Wedi cael fy ysbrydoli, fel bob amser, gan y chwiorydd Davies, rwyf wedi curadu rhaglen gerddorol a llenyddol ar gyfer y flwyddyn ganmlwyddiant bwysig hon, rhaglen sy’n dathlu eu treftadaeth artistig yn y Canolbarth, ac sy’n eu gosod o fewn cyd-destun ehangach o noddwragedd Cymreig blaenllaw eraill o’r gorffennol.”

Rhaglen 2020

Datganiad i’r wasg: Lawnsiad yr Wyl