Gŵyl Gregynog 2019: Gweledigaeth

English

Mae Gŵyl Gregynog, gŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf Cymru, yn dychwelyd ym mis Mehefin gyda’i chyfuniad traddodiadol o ddigwyddiadau hafaidd mewn lleoliadau delfrydol yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r tymor yn dathlu gweledigaeth y teulu Davies – Gwendoline a Margaret Davies a’u brawd David, Y Barwn Davies Cyntaf – i gael byd gwell, wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn diwylliant a heddwch, yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Mae’r flwyddyn 2019 yn nodi 100 mlynedd ers i Gyfarwyddwr Artistig cyntaf Gŵyl Gregynog, Henry Walford Davies, gael ei benodi yn Athro Cerdd Gregynog cyntaf erioed Prifysgol Aberystwyth, 1919–26, ac yn Gyfarwyddwr cyntaf Cyngor Cerdd Cenedlaethol Cymru, 1919–41: penodiadau a gyllidwyd gan Gwendoline a Margaret Davies. Mae’r tymor hefyd yn dathlu pen blwydd dau sefydliad a noddwyd gan David Davies: Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth a’r Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd.

 

Mae’r uchafbwyntiau, a gynhelir yn Ystafell Gerdd hanesyddol Gregynog ger Y Drenewydd, yn cynnwys yr Odysseus Piano Trio (Gwener, 28 Mehefin, 7.30pm), a bydd eu cyngerdd yn talu teyrnged i’r Aberystwyth Trio a benodwyd gan Walford Davies yn 1919 fel yr ensemble siambr preswyl cyntaf mewn unrhyw brifysgol yn y byd. Cynhaliodd y Trio gyngherddau wythnosol am ddim i fyfyrwyr a phobl y dref, a hyd yn oed rannu llwyfan gyda Béla Bartók pan wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y DU yn Aberystwyth ym mis Mawrth 1922.
Bydd Gregynog hefyd yn cyflwyno A Nocte Temporis, wedi’i gyfarwyddo gan y tenor Reinoud Van Mechelen, mewn rhaglen hyfryd o arias gan Bach (Sadwrn, 29 Mehefin, 7.30pm). Y tenor o Fflandrys, Van Mechelen, a’r ensemble Baróc o Ffrainc, A Nocte Temporis sy’n cynnwys y ffliwtydd Anna Besson, yw sêr y byd cerddoriaeth gynnar, a hwn fydd eu hymddangosiad cyntaf yng Nghymru.

 

Rhaglen 2019

Lleoliadau 2019