Morfydd Owen (1891-1918)

English

Ym marn ei chyfoeswyr, Morfydd Owen oedd y cerddor mwyaf talentog ac amryddawn a gynhyrchodd Cymru erioed: ‘yn biantydd fedrus, yn gantores hynod swynol a rhagorol, ac yn gyfansoddwriag rymus a gwreiddiol’ meddai’r soprano boblogaidd Mary Davies amdani ym 1915.

Mae Morfydd Owen yn ffigwr eiconig yn y diwylliant Cymreig, ac mae ei chaneuon megis Gweddi y Pechadur a To Our Lady of Sorrows ynghyd â thonau emynau Penucha a William yn gonglfeini’r diwylliant hwnnw. Roedd hi’n fyfyrwraig anarferol o wych yng Nghaerdydd a Llundain ac roedd yn troi mewn cylchoedd oedd yn cynnwys David Lloyd George, D. H. Lawrence, Ezra Pound a’r Tywysog Felix Yusupov a lofruddiodd Rasputin. Amharwyd ar gynlluniau Morfydd i astudio yn St Petersburg ym 1915 gan y Rhyfel Byd Cyntaf, a chanolbwyntiodd felly ar ddatblygu gyrfa yn Llundain fel cyfansoddwraig a pherfformwraig, gan dderbyn adolygiadau cadarnhaol iawn yn y wasg genedlaethol. Ond achosodd priodas gudd â’r seicolegydd Freudiaidd Ernest Jones i densiynau godi yn ei bywyd proffesiynol a phersonol a bu farw’n 26 oed ar 7 Medi 1918, yn dilyn appendectomi yng nghartref teulu ei gŵr yn Ystumllwynarth: diwedd trasig i yrfa arloesol sy’n parhau hyd heddiw i ysgogi ac ysbrydoli.

Wedi ei geni yn Nhrefforest ym 1891, astudiodd Morfydd Owen yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd a’r Academi Gerdd Frenhinol cyn gweithio fel cyfansoddwr, canwr a pianydd gan berfformio ei cherddoriaeth yn Neuadd Frenhinol Albert, y London Palladium a Neuadd Bechstein (sydd bellach yn Neuadd Wigmore). Er iddi farw’n drasig o ifanc, erbyn hynny roedd wedi cyfansoddi 250 sgôr gan gynnwys gweithiau cerddorfaol, siambr a chorawl, caneuon Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg, a thrawsgrifiadau a threfniadau o alawon gwerin Cymreig a Rwsieg.