ARDDANGOSFA | EXHIBITION

Pasiant hanesyddol a ffantasi | Historical pageantry and fantasy

Yr Ystafell Summer | The Summer Room

Llyfrgell Genedlaethol Cymru | National Library of Wales

15-19/06/2017

9.30 – 17.00

Am ddim | Free

 

Gan ddechrau gyda’r cerddor enigmatig Robert ap Huw (c. 1580-1665), bydd yr arddangosfa fechan hon yn canolbwyntio ar dri artist o ddechrau’r ugeinfed ganrif fu’n ail-ddarganfod ac ail-ddychmygu’r gorffennol: Arnold Dolmetsch (1858-1940) a’i Early Welsh Music Society; Thomas Evelyn Scott-Ellis (8fed Barwn Howard de Walden, 1880-1946) a’i nawdd i’r celfyddydau o Gastell y Waun; ac Alvin Langdon Coburn (1882-1966), y ffotograffydd a’r derwydd o Harlech.

Yn cynnwys albwm portreadau a The Book of Harlech (1920) gan Coburn, The Cauldren of Anwen (1922) gan Howard de Walden, Prosbectws y Gymdeithas Cerddoriaeth Gynnar Gymreig (1936) ac ewyllys Robert ap Huw (1665).

 

Beginning with enigmatic musician Robert ap Huw (c. 1580-1665), this small exhibition showcases three artists of the early twentieth century who re-discovered and re-imagined a past: Arnold Dolmetsch (1858-1940) and his Early Welsh Music Society; Thomas Evelyn Scott-Ellis (8th Baron Howard de Walden, 1880-1946) and his patronage of the arts at Chirk; and Alvin Langdon Coburn (1882-1966), photographer and druid of Harlech.

Including a portrait album and The Book of Harlech (1920) by Coburn, The Cauldren of Anwen (1922) by Howard de Walden, the Prospectus of the Welsh Early Music Society (1936) and the last will and testament of Robert ap Huw (1665).