Cofio Morfydd                           

English

Canolbwyntiodd tymor 2018 ar gyfres o gydweithrediadau o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Artistig Dr Rhian Davies, gyda rhain yn cael eu cynnal ledled Cymru ac yn Llundain i goffáu canmlwyddiant marwolaeth y gyfansoddwraig Gymreig, Morfydd Owen. Rhian Davies yw’r prif awdurdod ar y wraig hynod hon, oedd yn destun ei Doethuriaeth a bywgraffiad mewn lluniau ‘Yr Eneth Ddisgair Annwyl’.

Fel rhan o dymor 2018 cawsom y cyfle i weld cyfres o berfformiadau, sgyrsiau a digwyddiadau arbennig mewn lleoliadau fu’n ganolog i hanes bywyd y gyfansoddwraig. Dechreuodd y dathliad  ar 20 Gorffenhaf ym Mhrom 8 yn Llundain, gyda phefformiad y Nocturne gan BBC NOW a sgwrs cyn-cyngerdd gan Rhian Davies. Daeth yr rhaglen i Sir Drefaldwyn diwedd mis Medi yn Llangadfan ac yn Llanbrynmair, cartref teulu Morfydd yn Sir Drefaldwyn, ac oddi yma y daw ei henw barddol Llwyn-Owen.